Galwad am bapurau
Croesewir bapurau ar bob agwedd o dechnolegau iaith, a bydd adran arbennig o bapurau byr ar gyfer projectau sydd ar y gweill heb fod â chanlyniadau terfynol eto.
Dylid cyflwyno'r papurau i symposiwm@bangor.ac.uk ddim hwyrach na 31/10/2023. Bydd proses ddienw o adolygu gan gymheiriaid, a rhoddir gwybod y canlyniad i bawb sydd wedi cyflwyno papur erbyn 15/11/2023.
Ymhlith y pynciau perthnasol mae:
- Technolegau Iaith a ieithoedd llai eu hadnoddau fel y Gymraeg
- Cyfieithu Peirianyddol
- Technoleg Lleferydd
- Technoleg dysgu iaith
- Adeiladu a defnyddio adnoddau iaith (testun, llafar, arwyddo, amlgyfrwng)
- Lecsiconau, ontolegau a chronfeydd termau
- Adnoddau iaith a thorfoli
- Deallusrwydd artiffisial a iaith
- NLP trawsieithol a thrawsbarthol
- Adroddiadau am brojectau cyfredol yn y maes
Gofynnir am bapurau rhwng 4 a 8 tudalen ar gyfer y prif ffrwd, a phapurau byr o 4 tudalen ar gyfer projectau sydd ar y gweill. Gellir cynnwys tudalennau ychwanegol ar gyfer y cyfeiriadau yn ddau achos.
Gofynnir am ddrafft o bapurau cyflawn (nid crynodeb) ar gyfer yr adolygwyr. Ceir templed ar gyfer ffurf y papurau yma. Cyhoeddir y papurau gorau mewn cyfrol ar-lein gyda rhif ISBN wedi diwrnod y gynhadledd. Bydd y gyfrol yn ddwyieithog, gyda’r Gymraeg gwreiddiol a chyfieithiad Saesneg i gael o’r papurau Cymraeg. Rhyddheir yr e-gyfrol dan drwydded CC-BY.