Siaradwyr gwadd

Prif siaradwr: Kepa Sarasola, Athro Cysylltiol Cyfadran Cyfrifiadureg Prifysgol Gwlad y Basg.

kepa sarasola

Mae Kepa yn un o brif arweinwyr IXA, grŵp ymchwil sy'n gweithio ar Brosesu Iaith Naturiol. Crewyd y grŵp yn 1988 gyda'r nod o ddatblygu adnoddau cyfrifiadurol sylfaenol ar gyfer y Fasgeg. Mae cynnyrch y grŵp hwn yn cynnwys gwirydd sillafu (Xuxen), system cyfieithu peiranyddol (Matxin), Wordnet Basgeg (BasWN), corpws wedi'i anodi'n forffolegol (Corpus of Science and Tchnology) a chorpws wedi'i anodi'n gystrawennol (EPEC). Mae'r rhain i gyd wedi profi i fod yn offer defnyddiol i hybu'r defnydd o'r Fasgeg.

Manylion eraill i ddilyn yn fuan.