Siaradwyr gwadd
Prif siaradwr: Colin Jarvis, Solutions, EMEA yn OpenAI
Colin sy'n arwain o ran Arfer Datrysiadol o fewn OpenAI yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica, lle mae'n canolbwyntio ar ddatrys y problemau mwyaf heriol sydd gan gwsmeriaid. Mae ganddo ddiddordeb mawr yn yr ieithoedd Celtaidd, yn ogystal â gradd yn y maes o Brifysgol Caeredin, ac mae'n awyddus i rannu sut y gall Modelau Iaith Mawr (LLMs) roi hwb i ieithoedd llai eu hadnoddau drwy eu gwneud yn fwy hygyrch i bawb.
Bydd Colin yn siariad am 'How academia and OpenAI could improve lesser resourced languages support in LLMs'
Prif siaradwr: Emily Barnes, Athro Cysylltiol, Adran Addysg, Trinty College Dublin.
Athro Cynorthwyol mewn Addysg Iaith. Mae Emily yn arweinydd ffrwd ar gyfer PME Gaeilge a chydlynydd M.Oid.
Bydd Emily yn siariad am 'Developing language tools for Irish speaking children with additional needs'
Prif siaradwr: Melanie Jouitteau, ymchwilydd llawn amser mewn ieithyddiaeth ffurfiol yng Nghanolfan Genedlaethol Ymchwil Gwyddonol Ffrainc (labordy IKER),
Mae diddordebau ymchwil Melanie yn cynnwys tafodieithoedd Llydaweg (Celtaidd), Ffrangeg (Rwmans) yn ogystal â ieithoedd lleiafrifiedig yn gyffredinol o fewn y maes astudio cystrawen. Mae hi'n datblygu projectau gwyddoniaeth agored lle mae ynny'n ffinio âchymdeithas (gwyddoniaeth y dinesydd), ac yn canolbwyntio ar adeiladu adnoddau NLP llawr gwlad ar gyfer ieithoedd sy'n brin eu hadnoddau corpws
Bydd Melanie yn siariad am 'Introduction to the state of NLP tools in Breton at the moment'
Prif siaradwr: Loïc Grobol, Athro Cyswllt mewn Ieithyddiaeth Gyfrifiadol Ym Mhrifysgol Paris Nanterre
Mae diddordebau ymchwil Loïc yn canolbwyntio ar gymhwyso dulliau dysgu peirianyddol i brosesu iaith naturiol, ac yn benodol i gyd-destunau isel eu hadnoddau fel rhai ieithoedd lleiafrifol, prin eu hadnoddau yn ogystal â data hanesyddol a diacronig. Yn fwy penodol, mae Loïc yn canolbwyntio ar adeiladu adnoddau, cyfieithu peirianyddol a pharsio cystrawennol. Ei brif flaenoriaeth yw datblygu offer ac adnoddau fyddai'n ddefnyddiol i gymunedau ieithyddol.
Bydd Loïc yn rhoi cyflwyniad ar 'ARBRES Kentsur: a paralel Breton/French corpus with lessons for NLP in low-resource languages'