Galwad am bapurau

Mae'r Galwad am bapurau wedi cau.

Croesewir bapurau ar bob agwedd o dechnolegau iaith, a bydd adran arbennig o bapurau byr ar gyfer projectau sydd ar y gweill heb fod â chanlyniadau terfynol eto.

Dylid cyflwyno'r papurau i symposiwm@bangor.ac.uk ddim hwyrach na 31 Ionawr, 2020. Bydd proses ddienw o adolygu gan gymheiriaid, a rhoddir gwybod y canlyniad i bawb sydd wedi cyflwyno papur erbyn 31 Ebrill, 2020.

Ymhlith y pynciau perthnasol mae:

  • Technolegau Iaith a ieithoedd llai eu hadnoddau fel y Gymraeg
  • Cyfieithu Peirianyddol
  • Technoleg Lleferydd
  • Technoleg dysgu iaith
  • Adeiladu a defnyddio adnoddau iaith (testun, llafar, arwyddo, amlgyfrwng)
  • Lecsiconau, ontolegau a chronfeydd termau
  • Adnoddau iaith a thorfoli
  • Deallusrwydd artiffisial a iaith
  • NLP trawsieithol a thrawsbarthol
  • Adroddiadau am brojectau cyfredol yn y maes

Gofynnir am bapurau rhwng 4 a 8 tudalen ar gyfer y prif ffrwd, a phapurau byr o 4 tudalen ar gyfer projectau sydd ar y gweill. Gellir cynnwys tudalennau ychwanegol ar gyfer y cyfeiriadau yn ddau achos.

Gofynnir am ddrafft o bapurau cyflawn (nid crynodeb) ar gyfer yr adolygwyr. Ceir templed ar gyfer ffurf y papurau yma. Cyhoeddir y papurau gorau mewn cyfrol ar-lein gyda rhif ISBN wedi diwrnod y gynhadledd. Bydd y gyfrol yn ddwyieithog, gyda’r Gymraeg gwreiddiol a chyfieithiad Saesneg i gael o’r papurau Cymraeg. Rhyddheir yr e-gyfrol dan drwydded CC-BY.