Symposiwm Academaidd Technolegau Iaith Cymru 2020
Cynhelir symposiwm academaidd i brifysgolion Cymru ym Mhrifysgol Bangor ar 4 Tachwedd 2020. Noddir y symposiwm gan Lywodraeth Cymru.
Prif ffocws y gynhadledd fydd Technolegau Iaith, gan gynnwys Technoleg Lleferydd a Thechnoleg Cyfieithu; Prosesu Iaith Naturiol; a Deallusrwydd Artiffisial a Iaith. Bydd y pwyslais ar y Gymraeg a ieithoedd bach eraill llai eu hadnoddau, ond croesewir hefyd bapurau ar y technolegau hyn yn gyffredinol.
Bydd y diwrnod yn rhoi cyfle i ni ddysgu mwy am yr ymchwil sy’n digwydd yn y meysydd hyn yng Nghymru, i ddod i adnabod ein gilydd yn well, ac i gryfhau ein rhwydweithiau ymchwil ar gyfer y dyfodol.
Mae'r alwad am bapurau wedi cau. Mae croeso i academyddion hen ac ifanc, profiadol a rhai sy'n newydd i'r maes, gyfrannu i'r symposiwm hwn.
Ieithoedd y gynhadledd fydd Cymraeg a Saesneg. Darperir cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg.
Oherwydd y pandemig Covid-19 a’r cyfyngiadau sy’n parhau, rydym wedi gorfod ad-drefnu’r symposiwm hwn yn ddigwyddiad ar-lein gan ddefnyddio llwyfan Zoom. Mae’n flin gennym am yr anghyfleustra mae hyn yn ei achosi i bawb. Rydym am wneud y gorau o’r cyfle dan yr amgylchiadau, ac yn gobeithio y bydd hyn o leiaf yn caniatáu i fwy o bobl na fyddai wedi gallu teithio i Fangor ymuno gydag ni. Byddwn hefyd yn cyhoeddi cyfrol o bapurau’r symposiwm fel e-lyfr yn dilyn y digwyddiad.