Symposiwm Academaidd Technolegau Iaith Cymru 2023

Cynhelir yr trydydd symposiwm academaidd i brifysgolion Cymru ym Mhrifysgol Bangor ar 1af Rhagfyr 2023 yn Neuadd Reichel. Noddir y symposiwm gan Lywodraeth Cymru.

Prif ffocws y gynhadledd fydd Technolegau Iaith, gan gynnwys Technoleg Lleferydd a Thechnoleg Cyfieithu; Prosesu Iaith Naturiol; a Deallusrwydd Artiffisial a Iaith. Bydd y pwyslais ar y Gymraeg a ieithoedd bach eraill llai eu hadnoddau, ond croesewir hefyd bapurau ar y technolegau hyn yn gyffredinol.

Bydd y diwrnod yn rhoi cyfle i ni ddysgu mwy am yr ymchwil sy’n digwydd yn y meysydd hyn yng Nghymru, i ddod i adnabod ein gilydd yn well, ac i gryfhau ein rhwydweithiau ymchwil ar gyfer y dyfodol.

Mae croeso i academyddion hen ac ifanc, profiadol a rhai sy'n newydd i'r maes, gyfrannu i'r symposiwm hwn.

Ieithoedd y gynhadledd fydd Cymraeg a Saesneg. Darperir cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg.

Byddwn hefyd yn cyhoeddi cyfrol o bapurau’r symposiwm fel e-lyfr yn dilyn y digwyddiad.